Dewch i aros ar Fferm Carrog – dewiswch un o dri bwthyn fferm (newydd eu trosi o hen feudai segur y fferm) neu mwynhewch wely a brecwast yn y tŷ fferm traddodiadol. Mae Fferm Carrog ar y B4417 yn Llangwnadl, 2 filltir o Dudweiliog, 7 milltir o Aberdaron, 7 milltir o Abersoch a 7 milltir o Nefyn – fedrwch chi ddim dychmygu man mwy canolog!! Mwynhewch gefn gwlad godidog a golygfeydd o’r môr mewn lleoliad heddychlon, tawel. Dewch draw i fwynhau traethau Pen Llŷn!
Os ydych yn dymuno’r gwyliau teuluol perffaith, bwciwch `Y Gorlan’, `Beudy Carrog’ neu `Stabal Carrog’ am eich gwyliau hunan-ddarpar!
Os yw’n well gennych wyliau `gwely a brecwast’ – rhowch eich traed i fyny a chael eich brecwast wedi’i baratoi yn y ffermdy!!
Cliciwch ar enw’r bwthyn neu’r lluniau isod I gael cip ar ein bythynnod gwyliau newydd:-