Lleoliad cyfleus ger arfordir hardd Pen Llŷn

Cymraeg - English . .

Llety Hunan-ddarpar @ Bythynnod Fferm Carrog

Stabal Carrog

Beudy Carrog

Stabal Carrog
Y Beudy, Carrog

Y Gorlan

 

Y Gorlan, Carrog


Dewch ar wyliau efo’r teulu ac aros mewn un o dri bwthyn newydd sbon ar Fferm  Carrog.  Mwynhewch y tawelwch mewn rhan bendigedig o Ben Llŷn!  Gwrandewch yn astud – does dim byd i’w glywed!!

Yn ystod 2009-2010 troswyd yr hen adeiladau fferm segur yng Ngharrog i dri bwthyn gwyliau moethus.  Pob un gyda’i gymeriad unigryw ei hun – dyma stablau, beudai a pharlwr godro gwreiddiol y fferm.  Mae’r distiau a’r trawstiau pîn gwreiddiol yn dangos dyddiadau o 1894 ymlaen.  Rydym wedi ymdrechu i gadw cymaint o nodweddion gwreiddiol â phosib - o waliau cerrig, trawstiau gwreiddiol a chynlluniau syml yr ystafelloedd – mae popeth yn ychwanegu at naws y bythynnod cyfforddus yma.  Mae yma loriau llechi, dodrefn safonol o ledar a phren gydag ychydig o wlau haearn traddodiadol – i gyd yn gydnaws ag awyrgylch adeiladau o’r fath.  Serch hynny – peidiwch meddwl ein bod yn hen-ffasiwn!!  Mae pob bwthyn yn cynnig teledu LCD a `HD ready’ ac offer NEFF trydanol yn y ceginau yn cynnwys peiriannau golchi llestri a phoptai meicro.   Mae gan pob bwthyn wres tan-llawr olew ar y llawr gwaelod a rheiddiaduron ar y llawr uchaf.  Mae gan pob ystafell molchi reiddiadur i gadw tyweli yn gynnes ac mae dewis o fath neu gawod ym mhob bwthyn.  Mae chwaraewr DVD a Nintendo Wii ym mhob tŷ i gadw’r plant yn hapus a phan fo’r plant yn hapus mae’r rhieni yn hapus hefyd!!   Ceisiwn sicrhau gwyliau cyfforddus a hamddenol!

Mae pob dim yn cael ei gynnwys ym mhris y gwyliau – offer cegin, dillad gwlau, tyweli, llieiniau sychu llestri, ond dewch â thyweli lan y môr os gwelwch yn dda!

Mae pecyn syml o fwyd i’ch croesawu i’r bythynnod – bara brith cartref gyda menyn lleol a wyau. Mae mwy o wyau ffres ar gael o’r ffermdy petaech yn dymuno.

Mae gan Beudy a Stabal eu patio eu hunain – mae gan y Gorlan ardd breifat ac ardal patio. 

Mae digon o le i barcio a man parcio ychwanegol os oes gennych drelar neu gwch.

Mae gardd fawr i'w rhannu yn gefn y bythynnod. 

Mae cwt golchi ar y safle gyda pheiriant golchi dillad a sychwr.




Cartref | Llety Hunan-ddarpar | Gwely a Brecwast | Argaeledd | Gwybodaeth

© Carrog Farm Cottages. Hawlfraint

 



Dylunwud gan Delwedd