Gweithgareddau lleol

Dyma fanylion rhai gweithgareddau lleol posib I'ch galluogi I gynllunio'ch gwyliau.

Mae digonedd o weithgareddau i ddifyru pawb ym Mhen Llŷn.

Gallwch feicio, dysgu hwylfyrddio, marchogaeth ceffylau, tripiau cwch – mae'r rhestr yn faith!

Dewis o draethau braf – Mae Pen Llyn yn enwog am ei draethau a be well ar gyfer y plant?! Ymdrochi, nofio, syrffio, hwylio – mae llu o weithgareddau i'r plant ar draethau Pen Llŷn! Mae traeth Penllech yn 2 filltir o Carrog – traeth tawel o dywod braf. Mae traethau Towyn, Porthor, Aberdaron, Porth Neigwl, Porth Iago, Porth Ysgo, Porthdinllaen, Abersoch, LLanbedrog….dim ond I enwi rhai!

Be am drip I Ynys Enlli, man claddu ugain mil o seintiau meddan nhw. Cewch groesi mewn cwch o Borth Meudwy, mwynhau ychydig o oriau ar yr ynys cyn dychwelyd drachefn.

Os am fwynhau rhywbeth gwahanol – gallwch ymweld â Pharc Glasfryn lle mae yna fowlio deg neu `go-carts'. Mae'r Parc hefyd yn cynnig beicio cwad dros dir fferm a lle chwarae meddal i blant bach.

Mae winllan Rhoshirwaun yn fan I chwarae gem Airsoft I griw ac yn hwyl garw.

Mae cestyll Cricieth, Caernarfon a Harlech yn wych I flasu awyrgylch canoloesol.

Mae `Gypsy Wood' a `Gelli Gyffwrdd' ger Caernarfon yn cynnig dyddiau o weithgareddau difyr ac mae Portmeirion, y pentref ffug Eidalaidd yn werth mynd iddo.

Mae Llanberis yn gyrchfan I filoedd o ymwelwyr – I fentro'r Wyddfa – ar droed neu ar dren, yr Amgueddfa Lechi, y llyn a'r Mynydd Trydan.

Zip World – rydym o fewn cyrraedd I brofiadau anhygoel y zipwire a gweithgareddau cyffrous eraill.

Golff – mae clybiau Golff Nefyn, Abersoch a Pwllheli o fewn cyrraedd I'r bythynnod yn ogystal a Chwrs Golff Penyberth sydd yn addas ar gyfer rhai yn cychwyn chwarae golff.

 

Dewch â'ch ffrindiau, teulu neu glwb/cymdeithas cerdded i aros ym Mythynnod Fferm Carrog a mwynhau Llwybr yr Arfordir. Cerddwch y llwybr yn ei gyfanrwydd neu cymerwch wyliau byr a dewiswch gerdded rhan o'r daith yn unig. Dewch â'r ci efo chi – `dan ni'n croesawu hyd at ddau gi fesul ty.

Mae Llwybr Arfordir Llyn yn 84 milltir o hyd. Mae'n cychwyn yng Nghaernarfon ac yn mynd â chi o gwmpas arfordir Pen Llyn gan orffen ym Mhorthmadog. Mae yma rai o'r golygfeydd arfordirol mwyaf anhygoel yng Nghymru. Dyma lle fo Eryri yn cyfarfod Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Pen Llyn a Môr yr Iwerddon!! Gwelwch y dolffiniaid trwyn potel a'r morlo llwyd neu edrychwch ar yr amrywiaeth adar!! Dewch â sbienddrych efo chi – efallai y gwelwch frân coesgoch!!

Mae'r rhan fwyaf o'r daith ar hyd llwybrau cyhoeddus, lonydd tawel cefn gwlad a thraethau. Weithiau mae'r llwybr yn dringo elltydd serth.

Mae'r Llwybr Arfordir yn seiliedig ar hen daith y pererinion i Ynys Enlli, ynys dawel heddychlon oddi ar arfordir Llyn, lle hanesyddol yn llawn chwedlau a thraddodiadau. Ewch ar daith mewn cwch i Enlli ar ddiwedd eich arhosiad!

Cymerwch hoe o gerdded i fwynhau rhai o'r atyniadau a golygfeydd eraill yn yr ardal, ee.

  • Castell Caernarfon – un o'r cestyll mwyaf cywrain ei bensaerniaeth yng Nghymru.
  • Glynllifon – unwaith yn stad a phlasty mawr y teulu Newborough a wnaeth eu ffortiwn yn y diwydiant llechi – rwan yn Barc Gwledig bendigedig gyda llwybrau trwy'r goedwig a chaffi.
  • Caer Arianrhod – fe'i gwelir ar lanw isel ar y traeth yn Ninas Dinlle, rhyw gilomedr o'r lan – dywedir iddo fod yn gastell un o gymeriadau'r Mabinogi.
  • Nant Gwrtheyrn – unwaith yn bentref chwarel ynysig, rwan yn Ganolfan i Iaith a diwylliant Cymreig.
  • Porthdinllaen – traeth bendigedig gyda'i dy tafarn ar y traeth - Ty Coch. Mwynhewch ddiod ar y tywod!
  • Porthoer – traeth lle fo'r tywod yn chwibanu dan draed!
  • Plas yn Rhiw – nepell o Lwynfor, hen gartref y chwiorydd Keating, rwan dan berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mwynhewch y ty a'r gerddi bendigedig yn cysgodi rhag wyntoedd geirwon Porth Neigwl (nefoedd y syrffwyr).
  • Cilan – trwyn Cilan gyda'i olygfeydd arfordirol gwych.
  • Castell Cricieth – daeth y Saeson ddim pellach na hyn i'r Gorllewin i geisio tawelu'r Cymry yn yr oes a fu. Gadawyd y castell yn furddun gan Owain Glyndwr a'i ddynion yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
  • Llanystumdwy – man geni David Lloyd George – cymerwch amser i ymweld â'i fedd a'r amgueddfa i goffau ei fywyd a'i waith.


Map Arfordir Llyn - cliciwch yma

 

Mae'r Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn rhedeg o Bwllheli i Aberystwyth ac yn rhoi'r cyfle i chwi weld yr arfordir o bersbectif hollol wahanol.

Mae Rheilffordd Ffestiniog yn rhedeg trenau stêm rhwng Caernarfon a Phorthmadog ac yn teithio trwy gefn gwlad bendigedig ar gyflymder hamddenol.

I'r rhai ohonoch sydd yn mwynhau uchelfanau – aiff Rheilffordd yr Wyddfa â chi i fyny i gopa'r Wyddfa – pob 3,560 troedfedd ohono! Mae Canolfan Hafod Eryri ar y copa yn cynnig paned groesawgar o goffi tra'n mwynhau'r olygfa!

Mae Plas yn Rhiw, plasdy bychan dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn falch o'i erddi organig cysgodol ar ochr Mynydd Rhiw. Mae golygfeydd bendigedig dros Borth Neigwl ac mae'r ardd yn llawn coed i gysgodi'n braf rhag gwyntoedd y môr ac mae hen feudy wedi'I drosi yn gaffi cartrefol I fwynhau paned a chacen.

Mae Portmeirion yn cynnig gerddi coediog a phlanhigion is-drofannol yn ogystal â gerddi mwy ffurfiol a thraddodiadol ar eich cyfer. Os ydy o'n teimlo'n gyfarwydd – dyma leoliad sawl ffilm a rhaglen deledu – yn cynnwys The Prisoner.

Mae Plas Tan y Bwlch yn cynnig gardd Fictorianaidd 13 acer uwchben pentref bychan Maentwrog. Mae rhannau uchaf y gerddi gyda terasau ffurfiol ac mae yma ardd dŵr. Mae gardd Siapaneaidd, llwybrau rhododendron ac azalea, meithrinfa rhedynau a gardd wyllt, planhigion ecsotig, llwyni addurniadol a choed conifer.