Stabal Carrog
Stabal Carrog yw'r bwthyn mwyaf o'r tri ac yma roedd ceffylau'r fferm yn cael eu cadw ar gychwyn yr ugeinfed ganrif.
Yn llawn o nodweddion gwreiddiol, mae digon o le i wyth o bobl mewn pedair llofft.
Mae gwres tan-ddaear yn cadw'r llawr isaf yn gynnes gyda rheiddiaduron ar y llawr cyntaf. Rydym yn darparu eich tyweli a dillad gwely i gyd a gellir benthyg cadar uchel a cot.
Mae Wifi ar gael trwy'r bwthyn ond gan ein bod mewn ardal wledig, gall y cryfder amrywio o bryd i'w gilydd.
Gellir archebu gwyliau byr ar adegau penodol o'r flwyddyn. Rydym yn derbyn hyd at ddau gi fesul ty - £25 fesul ci fesul arhosiad - rhaid dilyn y rheolau.
Noder – oherwydd fod stepiau o un ystafell i'r llall, mae Stabal yn anaddas i bobol gyda phroblemau cerdded.
Llawr Isaf
CEGIN dderw fendigedig gyda nenfwd uchel, trawstiau a waliau cerrig gwreiddiol. Ceir ynddi bopty a hob trydan, popty meicro, rhewgell ac oergell, peiriant golchi llestri a pheiriant coffi. Mae'r bwrdd pin yn ddigon mawr i wyth person fwynhau pryd efo'i gilydd.
LOLFA ar wahan i chi eistedd nol a mwynhau'r teledu, chwaraewr DVD a'r Nintendo Wii. Mae amrywiaeth o DVD's, gemau Wii, llyfrau a gemau ar gael i gadw pawb yn hapus ar ddiwrnod gwlyb!
YSTAFELL MOLCHI gyda bath, cawod ar wahan a rheiddiadur i sychu tyweli.
YSTAFELL WELY 1 - Y Rhiwal – ystafell ddwbwl gyda dau ddrws patio'n arwain i fan eistedd braf y tu allan – lle delfrydol i baned ben bora! Gwely dwbwl, 2 gadair braf, bwrdd coffi a theledu – lle i ymlacio oddi wrth weddill y teulu!
Llawr cyntaf
YSTAFELL WELY 2 – Llofft Stabal – ystafell ddwbwl arall – dyma fan cysgu'r gweision yn wreiddiol. Mwynhewch yr olygfa odidog dros gefn gwlad a'r môr yn y pellter. Gallwch weld mynyddoedd y Wicklow ar ddiwrnod clir.
YSTAFELL GAWOD
YSTAFELL WELY 3 A 4 - gellir defnyddio'r croglofftydd fel ystafell deuluol o bedwar gwely sengl neu gau'r drws yn y canol i greu dwy ystafell ar wahan. Dyma lle roedd yr haidd ar gyfer bwydo'r gwartheg yn cael ei gadw slawer dydd.
Mae mannau eistedd o gwmpas pob bwthyn a gardd fawr i'w rannu yn y cefn. Mae digon o le parcio a BBQ nwy ar gyfer pob bwthyn.
Mae cwt golchi ar gyfer defnydd pawb wrth ymyl y bythynnod gyda pheiriant golchi dillad a pheiriant sychu dillad.
- Hen stabal hefo to llechi Stabal Carrog
- dreif yn mynd at Stabal Carrog
- Stabal Carrog o'r ochr. Meinciau pren ar hyd y stabal
- soffa ledr a wal garreg yn Stabal Carrog
- Ystafell fyw hefo soffa ledr a teledu uwchben stof llosgi coed
- cegin bren hefo bwrdd a cadeiriau yn Stabal Carrog
- bwrdd wedi ei osod hefo llestri a jwg o flodau yn Stabal Carrog
- ffenestr gyda olygfa o caeau yn Stabal Carrog
- seld hefo crochenwaith addurniadol yn Stabal Carrog
- ystafell wely dwbl yn Stabal Carrog
- ystafell wely hefo gwely dwbl yn Stabal Carrog
- cadeiriau oflaen gwely dwbl yn Stabal Carrog
- ystafell ymolchi gyda baddon a shower yn Stabal Carrog
- dau wely sengl hefo drws yn y canol yn Stabal Carrog